Rydym yn falch iawn o groesawu Sian Lloyd-Davies, ein Cydlynydd Prosiect Ffrindiau Gigiau newydd ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru, i dîm Anabledd Dysgu Cymru. Fe wnaethom ni ofyn i Sian ddweud wrthym ni amdani hi ei hun, a’i rôl newydd gyda’n prosiect cyfeillio. 


A selfie of 2 women in front of the Green Man at Green Man festival.

Helo bawb. Sian ydw i, ac rwy’n gyffrous iawn ymuno â thîm Ffrindiau Gigiau Gogledd Cymru. Rydw i wrth fy modd gyda’r hyn mae Ffrindiau Gigiau yn ei olygu a sut mae’n creu cyfeillgarwch trwy ddiwylliant a gweithgareddau cymdeithasol.

Fy rôl i yw cydlynu’r prosiect yng Ngogledd-ddwyrain Cymru. Mae hyn yn cynnwys:

  • cyfarfod a dod i adnabod gwirfoddolwyr a chyfranogwyr Ffrindiau Gigiau newydd a phresennol
  • paru Ffrindiau Gigiau
  • gweithio gyda phobl a sefydliadau fel y gall oedolion ag anabledd dysgu fyw bywydau cymdeithasol gweithgar yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Mae hyn yn cynnwys lleoliadau celfyddydol, grwpiau anabledd, awdurdodau lleol, y sector gwirfoddol, ac unrhyw un arall a all helpu Ffrindiau Gigiau Cymru yn ein gwaith.

Rwy’n artist ac yn wneuthurwr. Fe wnes i hyfforddi’n wreiddiol mewn dylunio graffeg a llythrennau wedi’u gwneud â llaw, fel ysgrifennu arwyddion, cerfio cerrig a chaligraffeg.

Rydw i wedi datblygu sgiliau creadigol eraill dros y blynyddoedd, gyda mosaigau yn brif un. Rydw i wedi gweithio mewn llawer o wahanol feysydd, fel setiau ffilm, prosiectau cymunedol a hwyluso gweithdai. Rwy’n ffynnu ar amrywiaeth a bod o gwmpas pobl o bob cefndir – mae’n bwydo fy nghreadigrwydd!

Fy angerdd mawr arall yw cerddoriaeth… yn enwedig cerddoriaeth fyw, ac rwy’n gwario’r rhan fwyaf o fy arian poced ar gigiau a gwyliau! Un o fy hoff wyliau yw’r Dyn Gwyrdd ym Mannau Brycheiniog — rydw i wrth fy modd â’r lleoliad a’r artistiaid. Yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydw i wedi mynychu fel gwirfoddolwr yno – rydw i wrth fy modd yn cyfrannu at rywbeth mor dda.

Rydw i wedi bod yn ffodus iawn o allu cyfuno’r hyn rwy’n ei garu o fewn fy mywyd gwaith. Rydw i wedi gweithio fel Arweinydd Gweithgareddau gydag oedolion sydd â phroblemau iechyd meddwl ac anawsterau dysgu, ac roedd hyn yn cyfuno’r celfyddydau, yr awyr agored a digwyddiadau, i gefnogi iechyd a lles pobl. Mae cymuned a chynwysoldeb yn fawr yn fy agwedd gyfannol tuag at fywyd.

Rwy’n edrych ymlaen at ddod i adnabod ein Ffrindiau Gigiau yng Ngogledd Cymru ac yn gobeithio gweld pawb mewn digwyddiad cymdeithasu yn ystod y misoedd nesaf.

Rydym ni’n chwilio am wirfoddolwyr Ffrindiau Gigiau newydd ym mhob un o’n hardaloedd Ffrindiau Gigiau. Beth bynnag fo’ch diddordebau a’ch hobïau, cyn belled â’ch bod chi dros 18 mlwydd oed, fe allech chi fod yn Ffrind Gigiau perffaith i rywun. Gallwch ddarganfod mwy a gwneud cais yma.