Am y ddwy wythnos ddiwethaf mae Anabledd Dysgu Cymru wedi bod yn gweithio i weithredu gweithdrefnau newydd fel ein bod yn gallu parhau i weithio i bobl gydag anabledd dysgu ar draws Cymru, tra’n cadw ein staff yn ddiogel ac yn gwneud popeth a allwn ni i helpu i atal lleadaenu coronafeirws (COVID-19).

Dyma sut rydyn ni wedi addasu ein gwaith i sicrhau ein bod yn parhau i’ch cefnogi chi.

Eich hysbysu a chadw mewn cysylltiad

Mae Anabledd Dysgu Cymru yn parhau i roi gwbodaeth, cefnogaeth ac arweiniad i’r rhai sydd ei angen. Mae gennym ni dudalen wybodaeth benodol am Coronafeirws ar ein gwefan, yn cynnwys nifer o adnoddau hawdd eu deall: www.ldw.org.uk/project/coronavirus.

Ffrindiau Gigiau

Mae ein prosiect cyfeillgarwch yn gweithio i gadw pobl gydag anabledd dysgu mewn cysylltiad. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol:
www.facebook.com/ffrindiaugigiau
www.twitter.com/ffrindiaugigiau

Rhannwch ein straeon gyda ni

Yn ystod y cyfnod yma rydym eisiau eich cadw mewn cysylltiad a’ch helpu chi i rannu eich straeon. Sut rydych chi? Beth ydych chi’n ei wneud i gadw mewn cysylltiad gyda’ch gilydd ac i gadw’n iach? Pa gynghorion sydd gennych chi i eraill? Dywedwch wrthyn ni hefyd am y problemau sydd gennych os gwelwch yn dda.

Fe fydden ni yn hoffi derbyn fideos a straeon sain hefyd yn enwedig. Gallwch hefyd ein e-bostio neu anfon neges inni ar Facebook a Twitter. Dywedwch wrthyn ni os gwelwch yn dda os ydych yn hapus inni rannu eich stori ar ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol.

Engage to Change

Ar hyn o bryd rydyn ni’n gweithio gyda’n partneriaid i weld beth ydy eu sefyllfa nhw. Cyn gynted ag y bydd gennym ddarlun llawn fe fyddwn yn rhoi gwybod i chi.
www.engagetochange.org.uk
www.facebook.com/engagetochangewales
https://twitter.com/engage_2_change

Hyfforddiant a digwyddiadau

Rydyn ni wedi rhoi gorau i’n rhaglenni cyfredol er mwyn eich diogelwch ac rydym yn troi ein hymdrechion at ddarparu’r wybodaeth hygyrch diweddaraf am Coronafeirws

Ein swyddfa

Mae ein swyddfa nawr wedi cau ac mae gan yr holl staff yr offer i weithio o gartref. Er y bydd ein swyddfa ar gau mae ein llinellau ffôn yn parhau ar agor a gallwch barhau i gysylltu gyda ni drwy e-bost, ffôn a chyfryngau cymdeithasol .

Anabledd Dysgu Cymru

Ffôn: enquiries@ldw.org.uk
E-bost: 029 2068 1160

www.facebook.com/learningdisabilitywales

www.twitter.com/ldwales