Edrych ar bresgripsiynu cymdeithasol ar gyfer pobl ag anabledd dysgu

A group of people in an archery lesson

Yn y sesiwn ar-lein hon, clywedon ni gan nifer o bobl am bresgripsiynu cymdeithasol a sut y gallai fod o fudd i bobl ag anabledd dysgu drwy leihau unigrwydd ac unigedd cymdeithasol.

Mae presgripsiynu cymdeithasol yn ffordd o gysylltu pobl â grwpiau a gweithgareddau yn eu cymunedau. Fel arfer, mae presgripsiynu cymdeithasol yn digwydd drwy gyfeiriad gan weithiwr iechyd proffesiynol fel dewis arall neu gyflenwol i driniaeth feddygol ar gyfer ystod o faterion iechyd a llesiant.

Gallwch ddarllen am y drafodaeth yn y cyfarfod a darganfod mwy am bresgripsiynu cymdeithasol yma.