Nodau’r cwrs

Fe fydd y cwrs undydd hwn yn rhoi cyfl eoedd i sta sy’n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu ddatblygu sgiliau i ddeall pwysigrwydd adnabod arwyddion posibl o dementia cynnar a’r angen i gymryd ymagwedd diagnosis
gwahaniaethol – ai dementia ydy e mewn gwirionedd, neu pa achosion posibl eraill o newidiadau i weithrediad a lles yr unigolion sydd angen eu hystyried? Fe fyddwch yn dysgu strategaethau ymarferol i sicrhau bod unigolion yn derbyn cefnogaeth dda a bod eu hanghenion gofal newidiol yn cael eu bodloni.

Ar ôl y cwrs yma fe fyddwch yn:

  • gallu adnabod arwyddion cy redin allai nodi dementia cynnar a bod yn ymwybodol o gyfl yrau iechyd neu newidiadau bywyd eraill allai fod angen eu hystyried hefyd efallai
  • cael gwybodaeth ar sut i gyfeirio unigolyn ar gyfer archwiliad/diagnosis
    cywir gan weithwyr iechyd pro esiyno priodol
  • bod yn ymwybodol o’r cysylltiad rhwng syndrome Down a dementia
  • bod yn ymwybodol o gyfnodau dementia (cynnar, canol a hwyr)
  • rheoli lles cor orol ac emosiynol unigolion gyda diagnosis o dementia
    a deall e aith hynny ar eu teulu- gofalwyr a’u  rindiau (yn cynnwys ffrindiau sydd ag anabledd dysgu hefyd)
  • adnabod yr e aith a gallu rheoli’r newidiadau yn ymddygiad yr unigolyn
  • datblygu strategaethau ymarferol i gefnogi’r unigolion sydd wedi cael diagnosis o dementia a chynnal cyfathrebu e eithiol.
  • deall e aith yr amgylchedd gor orol ar yr unigolyn.

Ar gyfer

Mae’r cwrs yma wedi’i ddylunio ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol pro esiynol sy’n cefnogi oedolion ag anabledd dysgu mewn amrywiol leoliadau, ond yn enwedig y rhai sy’n gweithio mewn amgylchedd byw gyda chymorth. Hefyd, fe fyddai’n berthnasol i weithwyr cymdeithasol sy’n asesu anghenion gofal ac eraill sy’n gweithio mewn rôl gefnogol fel sta gwasanaethau dydd, gweithwyr cymorth a
chynorthwy-wyr personol ac yn y blaen.