Rydym yn falch iawn o gael croesawu pump aelod o staff newydd i dîm Anabledd Dysgu Cymru. Lyndsey ydy ein Rheolwraig Prosiectau newydd ac fe fydd yn rheoli ein gwaith gyda Ffrindiau Gigiau, rhieni gydag anabledd dysgu a Senedd Ieuenctid Cymru, yn ogystal â datblygu prosiectau newydd. Mae Lyndsey yn ymuno gyda ni yn dilyn gyrfa o dros ddegawd yn Llywodraeth Cymru.

“Rwyf wrth fy modd yn ymuno gydag Anabledd Dysgu Cymru. Rwyf yn deall bod anabledd dysgu yn golygu bod pobl yn ei chael yn fwy anodd i ddysgu rhai sgiliau bywyd a’u bod yn gallu wynebu nifer o rwystrau. Mae cefnogi aelodau o’m teulu sydd ag anabledd dysgu wedi creu awydd angerddol ynof i sicrhau bod gan bobl ag anabledd dysgu fynediad i’r wybodaeth, cyngor, hyfforddiant a’r gefnogaeth gorau, a’u bod yn gallu siarad dros eu hunain.

“Fel Rheolwraig Prosiectau fe fyddaf yn gyfrifol am ein prosiect Ffrindiau Gigiau – cynllun bod yn ffrind sydd yn gosod pobl gydag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth yng Nghaerdydd gyda gwirfoddolwyr sydd yn rhannu’r un diddordebau, er mwyn iddyn nhw allu mynd i gigiau a digwyddiadau gyda’i gilydd. Rwyf yn edrych ymlaen t arwain y tîm Ffrindiau Gigiau wrth inni gyflwyno’r prosiect ym Mhen-y-bont, RCT a Bro Morgannwg

“Mae ein Rhwydwaith Cydweithio gyda Rhieni yn brosiect partneriaeth sydd â’r nod o wella cefnogaeth i rieni gydag anabledd dysgu yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae cyllid ar gyfer y prosiect yn dirwyn i ben ar ddiwedd Awst 2019. Fe fyddaf yn gweithio ar chwilio am gyllid pellach er mwyn ein galluogi i barhau gyda’r gwaith pwysig yma.

“Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at gymryd rhan mewn agweddau eraill o waith ar draws y corff, fel y gwaith ardderchog rydym yn ei wneud gyda Senedd Ieuenctid Cymru a lansiwyd yn Ionawr 2019, ac sydd ar hyn o bryd yn cefnogi dau berson ifanc anabl– Anwen Rodaway, o’r Gŵyr a Katie Whitlow, o Gyffordd Llandudno – i gael llais yn y Senedd Ieuenctid.

“I ffwrdd o’r gwaith, rwyf yn briod gyda dau o blant. Rydym yn deulu anturus sydd yn hoffi ymweld â nifer o leoedd ac yn mwynhau nifer o weithgareddau awyr agored.

Gwella sut rydym yn ymgysylltu gyda’r sector anabledd dysgu yng Nghymru

Gallwch ddarllen am yr aelodau eraill o’r staff sydd wedi ymuno yn ddiweddar gyda’n tîm yma:

Rebecca Chan – Swyddog Gwybodaeth Hygyrch
Angela Kenvyn – Rheolwraig Prosiect Engage to Change
Grace Krause – Swyddog Polisi
Rhobat Jones – Gweinyddydd

Mae Zoe Richards, ein Prif Weithredwraig dros dro wedi ysgrifennu am sut y bydd gan ein tîm sydd newydd ehangu effaith sylweddol ar ein gwaith, a sut rydym ym ymgysylltu gyda’r sector anabledd dysgu yng Nghymru.

Collage of 5 new members of staff

Our five new members of staff. (Clockwise from top left) Lyndsey, Angela, Grace, Rebecca and Rhobat