Rydym yn falch o groesawu pump aelod newydd o staff i’n tîm yn Anabledd Dysgu Cymru. Dros yr wythnosau nesaf fe fyddwn yn cyflwyno pob aelod newydd o’r staff, yn dechrau heddiw gyda Lyndsey Richards, ein Rheolwraig Prosiectau newydd

I ddechrau mae Zoe Richards, ein Prif Weithredwraig dros dro, yn esbonio sut y bydd ein tîm newydd estynedig yn cael effaith sylweddol ar ein gwaith, a sut yr ydym yn ymgysylltu gyda’r sector anabledd dysgu yng Nghymru.

“Bu’n gyfnod prysur a chyffrous fel Prif Weithredwraig dros dro yn Anabledd Dysgu Cymru dros y 4 mis diwethaf. Gyda nifer o brosiectau yn brysur neu yn dirwyn i ben, roedd yn amser gweld bod ein tîm profiadol yn rhannu eu gwybodaeth a’u sgiliau yn effeithiol ar draws ein holl brosiectau. Roedd hyn, yn ogystal â ffarwelio gyda rhai aelodau o’r staff a fu gyda ni am amser hir, sydd wedi symud i feysydd newydd, yn golygu ein bod yn gallu symud i dimau sydd yn adlewyrchu ein harbenigedd.

“Mae hefyd wedi golygu ein bod wedi gallu edrych ar alwadau ein haelodaeth a recriwtio 5 aelod newydd o staff i’n tîm. Drwy hyn rydym wedi gallu cynyddu ein gwaith ar bolisi, cynhyrchu gwybodaeth hawdd ei ddeall a hefyd cyflwyno model newydd o reoli gweinyddiaeth a phrosiectau. Drwy recriwtio wedi’i dargedu rydym hefyd wedi llwyddo i gynyddu’r nifer o staff sydd yn siarad Cymraeg ac fe fydd hyn yn ein galluogi i gael mwy o gapasiti fel corff dwyieithog.

“Mae’n amser cyffrous inni yn Anabledd Dysgu Cymru ac rwyf yn falch o allu cyflwyno aelodau newydd ein tîm.”

Zoe Richards
Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro
Anabledd Dysgu Cymru

Gallwch ddarllen am yr aelodau eraill o’r staff sydd wedi ymuno yn ddiweddar gyda’n tîm yma:

Lyndsey Richards – Rheolwraig Prosiect
Rebecca Chan – Swyddog Gwybodaeth Hygyrch
Angela Kenvyn – Rheolwraig Prosiect Engage to Change
Grace Krause – Swyddog Polisi
Rhobat Jones – Gweinyddydd

Collage of 5 new members of staff

Our five new members of staff. (Clockwise from top left) Lyndsey, Angela, Grace, Rebecca and Rhobat