Yn ddiweddar fe gyflwynon ni Lyndsey Richards fel un o bump aelod o staff newydd. Rydym yn falch o gael cyflwyno aelod o staff newydd arall, Angela Kenvyn.

Angela yw ein Rheolwr Prosiect Engage to Change newydd a bydd yn cydgysylltu partneriaeth Engage to Change ac yn rheoli cyflawniad y prosiect ledled Cymru. Mae gan Angela gefndir mewn gwaith ieuenctid a chymuned ac mae wedi rheoli gwasanaethau a phrosiectau cymunedol am dros ddeuddeng mlynedd.

Dywedodd Angela: “Rydwi’n falch iawn o gael ymuno â’r tîm yn Anabledd Dysgu Cymru. Ar ôl ymddeol bedair blynedd yn ôl, mae’n gyffrous i gael gweithio eto ac mae’n teimlo fel petawn i’n ôl ble rydw i i fod.

“Roedd y mwyafrif o’r prosiectau a’r gwasanaethau a reolais i o’r blaen ar gyfer plant a phobl ifainc ag anabledd dysgu/a neu awtistiaeth, eu teuluoedd/gofalwyr. Rydw i’n teimlo’n gryf y dylai  bob plentyn a pherson ifanc gael llais, gael yr un cyfleoedd a chynigion bywyd, ni waeth beth fo’u hamgylchiadau personol. Rydw i’n deall bod rhai pobl yn wynebu rhwystrau niferus ond rydw i’n credu y gall rhwystrau gael eu goresgyn trwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth.

“Byddaf yn gyfrifol am Engage to Change sy’n cael ei gyflawni mewn partneriaeth gan y partner arweiniol Anabledd Dysgu Cymru, gyda chefnogaeth asiantaethau cyflogi ELITE Supported Employment ac Agoriad Cyf, mudiad hunaneiriolaeth Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, partner ymchwil Prifysgol Caerdydd, ac mewn cydweithrediad â rhaglen interniaeth Engage to Change DFN Project SEARCH.

“Mae Engage to Change yn gweithio’n agos gyda’r person ifanc, ei rieni/gofalwr a’i gyflogwr, i oresgyn rhwystrau rhag cael ei gyflogi, datblygu medrau, darparu profiad gwaith di-dâl, cyflogaeth taledig gyda chefnogaeth, cyfleoedd gwirfoddoli a mynediad at interniaethau. Rydw i’n edrych ymlaen at weld y bobl ifainc yn symud ymlaen ac yn cyflawni.

“Rydw i hefyd yn awyddus i gefnogi fy nghydweithwyr a chymryd rhan mewn agweddau eraill o waith, er enghraifft, dylanwadu ar ddatblygiad polisi, mewn meysydd megis cyflogaeth ieuenctid, medrau ac addysg.

“Allan o’r gwaith rydw i’n briod gyda dau o blant a thri o wyrion. Rydw i wrth fy modd gyda’r awyr agored diguro, yn enwedig wrth dreulio amser gyda’m ceffylau ac ymgymryd â throeon heriol gyda ffrindiau.”

Gwella sut rydym yn ymgysylltu gyda’r sector anabledd dysgu yng Nghymru

Gallwch ddarllen am yr aelodau eraill o’r staff sydd wedi ymuno yn ddiweddar gyda’n tîm yma:

Lyndsey Richards – Rheolwraig Prosiect
Rebecca Chan – Swyddog Gwybodaeth Hygyrch
Grace Krause – Swyddog Polisi
Rhobat Jones – Gweinyddydd

Mae Zoe Richards, ein Prif Weithredwraig dros dro wedi ysgrifennu am sut y bydd gan ein tîm sydd newydd ehangu effaith sylweddol ar ein gwaith, a sut rydym ym ymgysylltu gyda’r sector anabledd dysgu yng Nghymru.

Collage of 5 new members of staff

Our five new members of staff. (Clockwise from top left) Lyndsey, Angela, Grace, Rebecca and Rhobat