Mae stori ar wefan Gwasanaeth Newyddion Anabledd wedi adrodd am arfarniad diweddar bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi methu cydymffurfio am flynyddoedd gyda’i dyletswyddau cyfreithiol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb i ddarparu dull hygyrch i nifer o bobl anabl gyfathrebu gyda’i staff ynghylch eu budd-daliadau.

Cafodd yr achos llys diweddaraf ei gyflwyno gan Paul Atherton, gŵr digartref anabl o Lundain sydd yn mynd drwy’r broses bontio o fudd-dal analluedd i Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA).  Roedd wedi dadlau bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi gwrthod darparu dull hygyrch iddo gyfathrebu ynghylch ei fudd-daliadau ar e-bost.

Roedd nifer o gyrff anabledd wedi darparu tystiolaeth i’r uchel lys yn dangos gwrthodiad parhaus yr Adran Gwaith a Phensiynau i ganiatau i bobl anabl gyfathrebu drwy e-bost am eu hawliadau budd-dal, er bod angen iddyn nhw wneud hynny am resymau mynediad.

Oherwydd system TG sydd wedi dyddio mae’r Adran Gwaith a Phensiynau ar hyn o bryd yn gweithredu system lle mae’n newid cyfeiriad cartref yr hawlwyr sydd angen addasiadau rhesymol i gyfeiriad tîm ‘fformatau amgen’ canolog, ac mae’n postio llythyrau i’r tîm hwnnw, sydd wedyn yn trosi gohebiaeth i fformat hygyrch ac yn ei anfon ymlaen i’r hawlydd.

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi amcangyfrif y byddai’n costio hyd at £750,000 i wneud y gwaith angenrheidiol i ganiatau i hawlwyr ESA dderbyn cyfathrebiadau yn uniongyrchol mewn fformatau amgen fel Braille, print bras neu e-bost.

Dywedodd y Barnwr Johnson bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi methu cydymffurfio am flynyddoedd gyda’i dyletswyddau o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ac yna’r Ddeddf Cydraddoldeb.

Er iddo wrthod hawliad Paul Atherton am adolygiad barnwrol, awgrymodd hefyd y gallai’r Adran Gwaith a Phensiynau fod yn torri’r dyletswydd cydraddoldeb sector cyhoeddus i hawlwyr eraill, drwy fethu eu ‘cyfeirio yn briodol’ i’r tîm fformatau amgen.

Hawliau Cyfreithiol

Mae darparu gwybodaeth hygyrch, clir yn rhan hanfodol o gefnogi pobl ag anabledd dysgu i ddeall a chymryd rhan mewn penderfyniadau sydd yn effeithio ar eu bywydau.

Ac eto dydy nifer o bobl a chyrff sydd â’r pŵer i wneud i hyn ddigwydd ddim yn deall bod hyn yn hawl dynol sylfaenol – fel a nodir  yng Nghynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Personau Anabl (Erthygl 9)  , ac sydd yn cael ei weithredu fel dyletswydd cyfreithiol gan y Ddeddf Cydraddoldeb (2010)  (dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol).

Yn Anabledd Dysgu Cymru rydym yn cynnig gwasanaeth gwybodaeth hygyrch o safon uchel ac yn creu gwybodaeth dwyieithog hawdd ei deall i gleientiaid yn cynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau iechyd, byrddau iechyd, cyrff pobl anabl ac unigolion. Rydym hefyd wedi cynhyrchu Clir a Hawdd, y llawlyfr dwyieithog cyntaf yng Nghymru sydd yn helpu cyrff i wneud eu gwasanaethau gwybodaeth yn hygyrch i bobl gydag anabledd dysgu.   Mae modd lawrlwytho Clir a Hawdd am ddim nawr o’n gwefan.

Mae’r arfarniad diweddar yn gam pwysig mewn sicrhau bod pobl anabl yn derbyn gwybodaeth bwysig am eu bywydau mewn fformat maen nhw’n gallu ei ddeall. – gan gefnogi’n llawn yr alwad “dim amdannom ni, hebddon ni”   Ond, i gynnwys pobl gydag anabledd dysgu yn llawn yn y gymdeithas rhaid inni wneud llawer mwy na’r hyn y mae’r ddeddf yn ei ddweud.

Mae nifer o bobl gydag anabledd dysgu wedi cael eu cloi allan o gymdeithas sydd yn cael ei harwain gan wybodaeth. Rydym yn gwbl gywir yn canolbwyntio ein sylw ar wella ansawdd gwybodaeth hygyrch yn y sectorau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol – ac mae enghreifftiau gwych o hyn fel Safon Gwybodaeth Hygyrch GIG Lloegr, a gwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru a Galw Iechyd Cymru i ddiweddaru a gwella eu hadnoddau hygyrch. Ond beth am y pethau syml sydd yn ychwanegu at ein hapusrwydd a’n llesiant, ac sydd yn gallu gwneud ein bywydau beunyddiol ychydig yn haws?

Mae United Response yn cynhyrchu rhai enghreifftiau ardderchog o hyn. Mae eu #cylchgrawn EasyNews misol yn fwletin hawdd ei ddeall ardderchog sydd yn rhoi’r newyddion byd-eang a materion cyfoes diweddaraf i bobl, a phob ychydig wythnosau maen nhw’n cyhoeddi ryseitiau hygyrch ar eu sianel YouTube. Mae nifer o grwpiau Pobl yn Gyntaf a hunaneiriolaeth ar draws Cymru a’r DU hefyd yn cynhyrchu newyddlenni hygyrch yn rheolaidd sydd yn rhoi’r newyddion diweddaraf i’w darllenwyr am y corff a hefyd newyddion oddi wrth eu cymuned a thu hwnt.

Mae angen i hyn fynd ymhellach. O amserlenni bysiau, cynhwysion bwyd a DIY a fideos sut-i-wneud, i ddarllediadau chwaraeon a rhestrau teledu a chelfyddydau – mae’n hawdd iawn anghofio faint yr ydym yn cymryd y pethau bob dydd sydd yn cyfoethogi ein bywydau yn ganiataol a pha mor anhygyrch y maen nhw’n gallu bod i nifer o bobl gydag anabledd dysgu.

Fe ddylem gymeradwyo pob arfarniad mawr sydd o’n plaid, ond ddylen ni fyth roi’r gorau i frwydro dros y pethau llai mewn bywyd.