A nurse wearing a visor and holding a needle is speaking to a young woman who is wearing a mask. Behind them is a fridge full of vialsMae Anabledd Dysgu Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn lansio prosiect gwybodaeth newydd hygyrch gyda’r nod o wella dealltwriaeth pobl gydag anabledd dysgu o frechu a brechlynnau.

Fe fydd y Prosiect Gwybodaeth am Frechu yn delio gyda chamwybodaeth am frechlynnau, yn delio gyda phryderon ac yn hyrwyddo debryniad brechlynnau ymysg pobl gydag anabledd dysgu.

Lawrlwythwch neu darllenwch y daflen ffeithiau hawdd ei deall am y prosiect yma (PDF)

Fe fydd cyfres o grwpiau ffocws ar-lein ac wyneb yn wyneb ledled Cymru, ynghyd ag arolwg hawdd ei ddeall ar-lein, yn cyfleu barn pobl gydag anabledd dysgu. Yn y cyfamser, bydd rhieni, gofalwyr di-dâl a gweithwyr proffesiynol yn cymryd rhan mewn cyfweliad 1 i 1.

Fe fydd gwybodaeth sy’n cael ei chasglu yn cael ei defnyddio i gydgynhyrchu adnoddau gwybodaeth am frechu er mwyn diwallu anghenion pobl ag anabledd dysgu yn well, eu teuluoedd a’u gofalwyr.

Atal heintiau anadlol

Dywedodd Paula Phillips, Uwch Reolwraig Gwella Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae gan bobl sydd ag anabledd dysgu fwy o anghenion iechyd ac maen nhw’n marw yn iau na’r boblogaeth yn gyffredinol. Amcangyfrifir mai oedran cyfartalog marwolaethau pobl ag anabledd dysgu yw 23 mlynedd yn iau i ddynion, a 27 mlynedd yn iau i fenywod, o’i gymharu â’r boblogaeth gyffredinol, gyda chyflyrau anadlol yr achos mwyaf sylweddol.

“Felly mae atal heintiau anadlol, fel ffliw a COVID-19, trwy frechu yn arbennig o bwysig i bobl ag anabledd dysgu.”

Mae gwybodaeth hygyrch yn hanfodol i helpu pobl ag anabledd dysgu i ddeall a gwneud dewisiadau gwybodus am eu bywydau. Er mwyn helpu pobl ag anabledd dysgu (a’u rhieni/gofalwyr) i wneud penderfyniadau gwybodus am frechlynnau, fe fydd y prosiect yn darparu gwybodaeth berthnasol ac ar sail tystiolaeth sy’n mynd i’r afael â’u pryderon. Bydd y wybodaeth hon mewn fformat hygyrch sy’n diwallu eu hanghenion.

Dywedodd Dr Christopher Johnson, Epidemiolegydd Ymgynghorol a Phennaeth Dros Dro Rhaglen Clefydau y Gellir eu Hatal Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Rydyn ni’n gwybod mai brechlynnau yw’r ffordd orau o amddiffyn rhag clefydau difrifol. Trwy’r prosiect hwn, rydym am ddarganfod beth mae pobl ag anabledd dysgu eisiau ei wybod am frechu a sut yr hoffent gael y wybodaeth hon.

“Mae’n bwysig bod pawb yn cael eu gwybodaeth am frechlynnau o ffynhonnell ddibynadwy er mwyn iddyn nhw wneud dewis gwybodus. Ein gobaith trwy weithio gydag Anabledd Dysgu Cymru yw y gallwn gefnogi pobl ag anabledd dysgu i gael gafael ar wybodaeth wedi’i theilwra a dibynadwy am frechu sy’n eu galluogi i wneud hyn.”

Bydd grŵp llywio, sy’n cynnwys pobl ag anabledd dysgu, staff o Anabledd Dysgu Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, ymchwilwyr, a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu, yn helpu i oruchwylio gwaith y prosiect.

Sut y gallwch chi gymryd rhan

Rydym yn chwilio am:

  • pobl gydag anabledd dysgu fyddai’n hoffi cymryd rhan mewn grwpiau ffocws ar-lein neu sy’n ateb arolwg ar-lein
  • a rhieni, gofalwyr a phobl broffesiynol fyddai â diddordeb cymryd rhan mewn cyfweliadau

Trwy gydol Chwefror a Mawrth 2023 bydd tîm Hawdd ei Ddeall Cymru gydag Anabledd Dysgu Cymru yn:

  • Cynnal 3 grŵp ffocws ar gyfer pobl gydag anabledd dysgu yn bersonol.
  • Cynnal 3 grŵp ffocws ar-lein ar gyfer pobl gydag anabledd dysgu.
  • Cyfweld â theulu a gofalwyr di-dâl, a phobl sy’n gweithio gyda phobl gydag anabledd dysgu.
  • Gofyn i bobl gydag anabledd dysgu lenwi arolwg hawdd ei ddeall ar-lein. Fe fydd yr arolwg ar gael rhwng dydd Llun 20 Chwefror 2023 a dydd Gwener, 10 Mawrth 2023.

 

Arolygon Iechyd Cyhoeddus Cymru

Ochr yn ochr â’r arolwg mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi trefnu 2 arolwg, sydd ar gael tan ddydd Gwener 24ain Chwefror:

  1. Arolwg ar gyfer gofalwyr pobl gydag anabledd dysgu.
  2. Arolwg ar gyfer sefydliadau sy’n cefnogi pobl gydag anabledd dysgu.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Prosiect Gwybodaeth am Frechu yma, neu cysylltwch â Laura Griffiths: e-bostiwch laura.griffiths@ldw.org.uk neu ffoniwch 029 2068 1160.

I gael gwybodaeth am frechlynnau yng Nghymru, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.