Sut i gynhyrchu gwybodaeth hawdd ei ddeall i siaradwyr Cymraeg gydag anabledd dysgu.

Me Anabledd Dysgu Cymru a Mencap Cymru wedi cynhyrchu canllawiau i wneud gwybodaeth yn hawdd ei darllen a’i deall i bobl gydag anabledd dysgu sydd yn sarad Cymraeg.

Mae’r canllawiau, a gynhyrchwyd yn 2012, ar gyfer awduron a chyfieithwyr deunyddiau Hawdd ei Ddeall yn Gymraeg, ac i unrhyw un sydd yn comisiynu gwaith Hawdd ei Ddeall.

Yn aml dydy Saesneg Hawdd ei ddeall ddim yn cyfieithu’n hawdd i Gymraeg Hawdd ei Ddeall. Fe fydd y canllawiau yma yn helpu i sicrhau bod dogfennau Hawdd ei Ddeall yn Gymraeg o safon uwch.

Mae’r canllawiau dwyieithog mewn 2 ran:

  1. Cyflwyniad i gomisiynwyr Hawdd ei Ddeall , yn esbonio pam ei bod yn bwysig bod pobl gydag anabledd dysgu sydd yn siarad Cymraeg yn derbyn gwybodaeth mewn Cymraeg Hawdd ei Ddeall.
  2. Canllawiau i gyfieithwyr, sydd yn rhoi awgrymiadau i’w hystyried pan yn cyfieithu neu yn ysgrifennu gwybodaeth Hawdd ei Ddeall drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cynhyrchwyd y canllawiau dwyieithog drwy grant gan y Gronfa Datblygu Trydydd Sector, ar y cyd gydag Estyn Llaw a Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am gyllid cyfatebol ar gyfer amser staff.

Ysgrifenwyd y canllawiau gan Eluned Jones, awdur a chyfieithydd Hawdd ei Ddeall profiadol. Cynhaliwyd y prosiect mewn ymgynghoriad gyda chyfieithwyr Cymraeg, pobl gydag anabledd dysgu a rhieni/gofalwyr.