Mae technoleg fodern yn chwarae rhan gynyddol yn ein bywydau o ddydd  i ddydd gan gyflwyno manteision ac anfanteision. Gall y technolegau hyn gynnig manteision i bobl sydd angen cefnogaeth ond rydyn ni mewn perygl o adael i bobl gael eu heithrio o fywyd modern os nad ydyn ni’n sicrhau bod gan bawb y cyfleodd i’w defnyddio  .

Mae eitemau syml oddi ar y silff fel ffonau deallus neu offer yn cael eu rheoli gan lais yn y cartref yn bethau prif ffrwd ond ydy pobl sydd yn byw mewn cartrefi gyda chefnogaeth yn cael y mwyaf ohonyn nhw yn eu bywydau ?

Mae technoleg arbenigol fel teleofal ar gael ond ai’r rheswm bod cyn lleied yn ei ddefnyddio oherwydd nad ydy e’n ddefnyddiol neu oherwydd cost, polisi sefydliadol neu bryderon eraill ?

Fe fydd Cefnogaeth ar gyfer Byw yn yr 21ain Ganrif yn edrych ar sut mae 3 corff wedi mynd ati i integreiddio technoleg i fywydau a chefnogaeth o ddydd i ddydd y bobl maen nhw’n gweithio gyda nhw.

Dysgwch sut maen nhw’n gwneud hynny, y canlyniadau cadarnhaol i’r bobl maen nhw’n eu cefnogi a’r problemau maen nhw wedi eu wynebu ar y daith.

Siaradwyr

Bydd Taith Ltd yn siarad am Here2there a sut all wella dewis, llais a rheolaeth y bobl drwy gipio tystiolaeth o’r canlyniadau.

Bydd Prosiect Trawsnewydd Anabledd Dysgu Gogledd Cymru  yn trafod y defnydd o dechnoleg wedi’i bersonoli ac uchelgeisiau’r prosiect i wella dewis, llais a rheolaeth y bobol drwy ddefnyddio technoleg.

Fe fydd Hft  yn trafod eu dulliau sydd wedi’u personoleiddio a’u teilwrra i weithredu Technoleg wedi’i Bersonoleiddio, yn cynnwys Sut mae technoleg wedi chwarae rôl allweddol mewn cynyddu annibyniaeth pobl mewn prosiect symud ymlaen graddfa mawr Sut maen nhw wedi teilwra eu dull o weithredu i weithio gydag awdurdodau lleol i gyrraedd y canlyniad gorau i’r rhai sydd yn derbyn gwasanaethau a chomisiynwyr.