Rydym yn falch iawn o groesawu Aled Blake i dîm Anabledd Dysgu Cymru. Fe wnaethom ofyn i Aled ddweud wrthym amdano’i hun a’i rôl newydd fel Swyddog Polisi a Chyfathrebu.


Ymunais ag Anabledd Dysgu Cymru ym mis Tachwedd, gan weithio gyda Sam a Kai ar bolisi a chyfathrebu. Rwyf newydd gwblhau gradd meistr mewn gwleidyddiaeth a pholisi cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gyflawni uchelgais ers amser i ddychwelyd i addysg uwch.

Rwy’n falch iawn o fod yn gweithio i Anabledd Dysgu Cymru, sefydliad sy’n gwneud cymaint o waith pwysig yn gwella bywydau pobl ag anableddau dysgu. Deuthum i’r gynhadledd flynyddol eleni yng Nghasnewydd lle cefais fy ysbrydoli gan y straeon a gafodd eu hadrodd y diwrnod hwnnw ac roeddwn wrth fy modd yn gwylio perfformiad rhyngweithiol Hijinx. Yn yr amser byr rwyf wedi bod yma mae’n amlwg bod pobl yn angerddol am eu gwaith ac yn ymroddedig i genhadaeth Anabledd Dysgu Cymru.

Roeddwn yn newyddiadurwr am tua 17 mlynedd ac rwyf hefyd wedi gweithio ym maes polisi mewn addysg uwch. Rwy’n ffan mawr o Ddinas Caerdydd ac ysgrifennais lyfr am ddyrchafiad y clwb i’r Uwch Gynghrair yn 2018.

Y tu allan i’r gwaith, rwyf wrth fy modd yn treulio amser gyda fy nheulu, rwy’n hyfforddwr gyda thîm pêl-droed fy mab a phan nad oes gennyf anaf, rwy’n mwynhau rhedeg i fyny ac i lawr y bryniau o amgylch y Barri lle rwy’n byw ac ar hyd y llwybrau arfordirol hyfryd yma.

Aled has a short beard is wearing a black cap, grey jumper and is standing in front of a brick wall, looking to his right