Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu Hygyrch rhan amser i ymuno â’n Gwasanaeth Hawdd ei Ddeall sy’n tyfu.

Mae gan bobl gydag anabledd dysgu yr hawl i gael gwybodaeth y maen nhw’n gallu ei deall er mwyn iddyn nhw wneud dewisiadau gwybodus, siarad i fyny a chymryd rhan yn eu cymunedau. Mae Hawdd ei Ddeall Cymru yn gwneud hyn yn bosibl drwy gynhyrchu gwybodaeth hygyrch o ansawdd uchel ar gyfer amrediad eang o gyrff.

Mae ein gwasanaeth darllen yn rhwydd yn darparu cysylltiadau hygyrch i gleientiaid yn cynnwys Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol, y sector cyhoeddus a sefydliadau ar gyfer pobl anabl, i helpu pobl gydag anabledd ddarllen i ddeall a chael eu cynnwys ym mhopeth sy’n effeithio ar eu bywydau.

Fel chwaraewr tîm, byddwch yn dod â sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar a phrofiad o gynhyrchu ystod o wybodaeth ansawdd uchel mewn fformat hawdd ei ddeall.

Cyflog:  Gradd 5 ADC, pwyntiau 17-20 £24,762 i £27,889 (14 awr yr wythnos pro rata) a chyfraniad pensiwn cyflogwr o 7.5 %

Lleoliad: Llanisien, Caerdydd

Dyddiad cau:   04 Mawrth 2020

Cyfweliad:  12 Mawrth 2020

Sut i ymgeisio:

Disgrifiad Swydd

Manyleb Person

Ffurflen Gais

Beth bydd ADC yn rhoi i chi